22/03/2018

Pa mor bwysig oedd Cambridge Analytica mewn gwirionedd?

Mae'r stori am ddulliau amheus Cambridge Analytica yn arwyddocaol, ond mae ambell beth am yr ymateb sy'n fy nghorddi. Yn un peth, sgandal am Facebook yw hon yn fwy na dim, ac mae'n hen bryd i arferion gwarchod data'r cwmni hwnnw dderbyn y sylw haeddiannol.

Ond yn bwysicach, rwy'n eithaf siwr nad yw dylanwad gwleidyddol y dulliau hyn mor allweddol ag y honnir. Wedi'r cyfan, roedd Cambridge Analytica'n gweithio ar ran Ted Cruz cyn Trump, ac roedd ymgyrch hwnnw'n fethiant. Dylid cofio hefyd bod gan gwmnïau fel hyn gymhelliad ariannol i or-ddweud eu heffeithiolrwydd (a chymhelliad wedyn i'w dan-ddweud pan ddaw sgandal fel hon i'r amlwg).

Ymateb cefnogwyr Trump i'r stori yw 'pa ots?', ac mae hynny'n ddealladwy. Y bobl sydd leiaf tebygol o boeni am yr holl beth yw'r union rai a gafodd eu targedu; pam cwyno am weld hysbysebion o blaid gwleidydd roeddent yn ei gefnogi?

Fel yn achos yr honiadau am gynllwynio â Rwsia, mae'r sawl sy'n dymuno esbonio Trump trwy roi'r bai ar Cambridge Analytica'n twyllo'u hunain. Ffenomen Americanaidd yw Trump; nid cael eu twyllo wnaeth ei gefnogwyr. Roeddent yn hoffi'r hyn roedd y dyn yn ei gynrychioli, sef patriarchaeth macho a hiliol.

Hiraeth o fath gwahanol sy'n gyrru'r duedd i wrthod derbyn nad ffactorau allanol arweiniodd at fuddugoliaeth Trump. Trwy geisio rhoi'r bai i gyd ar CA neu Vladimir Putin, mae nifer o sylwebyddion y canol prif lif fel petaent yn grediniol bod modd cael gwared ar Trump, smalio na ddigwyddodd ei arlywyddiaeth erioed, a dychwelyd i nirfana honedig 2015. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, symptom o ffenomen sydd wedi bod yn berwi'n araf o dan yr wyneb ers blynyddoedd maith yw Trump. Gellir gofyn a oedd cymorth Rwsia, neu CA, yn ddigon i wthio Trump dros y llinell, ond mae'n gwestiwn llawer iawn llai pwysig na 'pam roedd bron 63 miliwn o Americanwyr yn hapus i bleidleisio dros dwpsyn hiliol?' Mae'r holl ganolbwyntio ar gwestiynau ymylol yn teimlo fel esgus i osgoi wynebu'r ffaith nad oedd pethau gystal â hynny cyn Trump wedi'r cyfan.

No comments:

Post a Comment