14/03/2018

Camddeall geneteg

Mae A Brief History Of Everyone Who Ever Lived gan Adam Rutherford yn lyfr ardderchog. Mae'n esbonio sut yr ydym yn gwybod y pethau yr ydym yn eu gwybod am eneteg, a'n trafod, wrth fynd heibio, y pethau sy'n cael eu camddeall.

Ymysg pethau eraill, mae'n feirniadol o gwmnïau sy'n honni ei bod yn gallu profi pa ganrannau o'ch genom sy'n deillio o ba rannau o'r byd, neu eich bod yn ddisgynydd i ffigwr hanesyddol enwog (fel Charlemagne, er enghraifft). Nid y broblem yw bod dweud wrth rywun bod Charlemagne yn gyndad iddynt yn anghywir, neu nad oes modd profi'r fath beth; i'r gwrthwyneb, y broblem yw bod Charlemagne yn gyndad i bawb yn Ewrop. Un o ffeithiau rhyfeddol y llyfr yw bod 4 o bob 5 o'r bobl a oedd yn fyw yn Ewrop ar y pryd yn hen (hen hen ayyb) nain neu daid i bob un person Ewropeaidd heddiw, a bod llinach yr 1 o bob 5 sy'n weddill wedi dod i ben y llwyr. Nid oes tir canol. Gan ein bod yn gwybod mai atgenhedlwr brwd oedd Charlemagne, mae'n sicr mai i'r categori cyntaf y mae'n perthyn.

Mater syml o feddwl am y rhifau yw hyn; nid oes angen samplu DNA unrhyw un i sylweddoli rhai ffeithiau syfrdanol. O'n cadair freichiau, mae modd cyfrifo mai dim ond 3,400 o flynyddoedd yn ôl y bu byw hynafiad mwyaf diweddar pob un person ar wyneb y ddaear. Gan gadw hyn mewn cof, nid oes unrhyw beth arbennig am fod yn ddisgynydd i rywun fel Owain Glyndŵr. Nid oes angen i'r un ohonom olrhain ein llinach yn arbennig o bell yn ôl cyn cyrraedd rhyw fath o frenin neu dywysog.

Ceir hefyd yn y llyfr drafodaeth helaeth am hil. Neu, yn hytrach, mae'n gwneud y pwynt nad yw hil, mewn gwirionedd, yn gysyniad gwyddonol ystyrlon o gwbl. Mae llawer iawn mwy o wahaniaethau genetig o fewn 'hiliau' gwahanol nag sydd rhyngddynt. Wrth gwrs, mae hilgwn o bob oes wedi hawlio mai o'u plaid hwy mae gwyddoniaeth (mae Rutherford yn trafod ffolineb ewgeneg yn helaeth), ac mae'r un peth yn wir am heddiw. Yn union fel Francis Galton gynt, cri syrffedus pobl fel Jordan Peterson a Charles Murray yw mai gwyddoniaeth bur sy'n eu gyrru, tra bod eu gwrthwynebwyr (ni'r social justice warriors bondigrybwyll) yn ildio i emosiwn am nad ydym yn hoffi'u casgliadau. Fel mae Rutherford yn ei ddangos, y gwrthwyneb llwyr sy'n wir.

No comments:

Post a Comment