25/10/2017

Cer i grafu, George W Bush

Rwyf wrthi'n darllen llyfr o'r enw Trump Revealed  ar hyn o bryd. Mae'n cadarnhau rhywbeth oedd eisoes yn amlwg, sef na ddylai ymddygiad twp (ond hyderus), egotistig, rhagfarnllyd a thwyllodrus yr Arlywydd Trump fod yn syndod o gwbl i unrhyw un. Fel hyn mae'r dyn wedi bod erioed, yn ddi-ffael. Mae Trump yn greadur anarferol, sef dyn heb unrhyw rinweddau, yn llythrennol, o gwbl.

Fel sydd efallai'n amlwg o'r blog, mae'r niwed sy'n cael ei achosi gan Trump yn dipyn o obsesiwn gennyf. Roedd ei ethol yn drychineb. Eto i gyd, fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae'n bwysig cofio nad ymddangos yn sydyn o wagle a wnaeth y dyn. Symptom ydyw, nid gwraidd y broblem ei hun, ac mae angen i bobl roi'r gorau i obeithio y byddai cael gwared ar Trump (trwy ba bynnag ddull) rywsut yn caniatáu i ni gario ymlaen fel pe na bai ei arlywyddiaeth wedi digwydd o gwbl.

Dyma pam cefais fy ngwylltio gan sylwadau George W Bush yr wythnos diwethaf. Nid oherwydd eu bod yn anghywir; i'r gwrthwyneb. Maent yn gyfoglyd o ragrithiol, gan mai Bush ei hun sy'n gyfrifol am y smonach presennol i raddau helaeth. Nid oes modd gor-ddweud y difrod a wnaethpwyd gan gyfnod hwnnw fel arlywydd. Ef oedd yn gyfrifol am gamgymeriad geo-wleidyddol mwyaf trychinebus a di-angen yr hanner canrif diwethaf. Trwy ddechrau rhyfel Irác, fe achosodd lanast yn y Dwyrain Canol, ac wrth ddefnyddio celwyddau noeth er mwyn ei gyfiawnhau fe wnaeth fwy na neb i erydu ymddiriedaeth y bobl yn eu llywodraeth. Ar ben hynny, roedd yn annog y defnydd o artaith, roedd yn rhagfarnllyd, ac fe aeth ati'n fwriadol ac agored i danseilio'r gwirionedd ei hun fel cysyniad.

Nid oes unrhyw beth yn newydd am Trump, felly. Braenarwyd y tir ar ei gyfer gan Bush. Yn wir, wrth ddilyn cyfeiriad y Blaid Weriniaethol yn gyffredinol ers dyddiau Nixon, gwelir bod ymddangosiad rhywun fel Trump fwy neu lai'n anochel. Mae'r blaid yn ei chyfanrwydd yn drewi.

Mae Trump hyd yn oed yn waeth na'r hyn a gafwyd gynt, ond rwy'n ffieiddio'n llwyr at y nostalgia diweddar am Bush. Dyma wir berygl arlywyddiaeth Trump: y cyfan fydd angen i'r Gweriniaethwyr ei wneud yn y dyfodol er mwyn ymddangos yn dderbyniol yw bod yn well na'r fuckwit presennol. Dyna fydd y safon. Dyma pam rwy'n argyhoeddedig bod y niwed presennol am bara am ddegawdau; yn wir, mae'n berffaith bosibl nad Trump fydd yr isafbwynt.

No comments:

Post a Comment