28/07/2016

Pleidlais brotest

Mae mis a mwy wedi bod bellach ers y refferendwm, ac rwy'n dal i grafu pen ynghylch y bobl hynny a bleidleisiodd dros Brydain i adael yr Undeb Ewropeaidd ond yn y gobaith na fyddai'n digwydd. Yn y dyddiau wedi'r refferendwm, cafwyd llawer iawn o sôn am bobl yn difaru eu pleidlais yn syth, ac fe gafwyd erthyglau fel hon gan ambell un.

Nid ail-bobi'r dadleuon ar y ddwy ochr yw'r bwriad fan hyn. Er fy mod yn credu bod y canlyniad yn drychineb, rwy'n fodlon derbyn bod nifer anferth o'r bobl bleidleisiodd i adael wedi gwneud hynny ag arddeliad, a'u bod yn hapus â'r canlyniad. Rwy'n anghytuno'n chwyrn, ac rwy'n credu eu bod wedi pleidleisio ar sail celwyddau, ond maent i weld yn hapus felly llongyfarchiadau iddynt am wn i. Ond roedd fy nicter tuag at bobl fel awdur yr erthygl uchod yn chwyrn, ac nid yw'r dicter hwnnw wedi pylu o gwbl yn ystod y mis. Os rywbeth, mae wedi gwaethygu. Mae hi'n chwilio am ein cydymdeimlad, ond dim ond casineb sydd gennyf o hyd.

Mae dymuno rhoi 'cic i'r sefydliad' yn un peth. Gall fod yn opsiwn teg, pan mae yna ddewis amgen yr ydych yn digwydd ei hoffi, neu o leiaf yn gallu dygymod ag ef. Ond ni allaf fyth ddeall y dyhead i bleidleisio dros rywbeth sydd mewn gwirionedd yn wrthun i chi. Mae fel plentyn, sydd wedi pwdu â'i mam, yn penderfynu llosgi'r tŷ i gyd lawr a hithau'i hun y tu mewn. Refferendwm syml cenedlaethol a gafwyd ym Mehefin, ac roedd yn hysbys ei fod yn debygol o fod yn agos. Roedd pleidleisio dros yr union opsiwn nad oeddech yn dymuno'i weld yn anhygoel o anghyfrifol a thwp. Gyda phob difrifoldeb, rwy'n methu'n lân â deall y peth. Ac rwyf wedi trio.

Mae fersiwn debyg i'w gweld yn America ar hyn o bryd. Er i Bernie Sanders gydnabod mai Hillary Clinton sydd wedi cipio enwebiad arlywyddol y Democratiaid, a datgan ei fod am ei chefnogi, mae rhai o'i gefnogwyr pennaf yn mynnu na fyddent yn ei efelychu. 'Bernie or bust'. Bydd rhai yn troi at y Gwyrddion (sy'n rhedeg ymgyrch syfrdanol o dwp), ond mae'n ddychrynllyd faint sy'n dweud yn agored y byddent yn cefnogi Donald Trump cyn Clinton. Mae hyn fel mynd allan am fwyd, sylweddoli nad yw eich hoff bryd ar gael rhagor, ac ymateb trwy saethu'ch hun yn eich llygad. Fel un oedd yn cefnogi ymgyrch Sanders, a'n ddigon llugoer tuag at Clinton, rwy'n gegrwth bod cynifer o'i gefnogwyr yn fodlon dweud yn gyhoeddus y byddai'n well ganddynt gefnogi ffasgydd go iawn os nad yw eu hoff ddewis ar gael mwyach. Mae'r peth yn pathetig, ac, yn llythrennol, yn berygl bywyd. Rhaid iddynt gallio.

No comments:

Post a Comment