14/06/2016

Cyflafan Orlando

Dyma ffaith syfrdanol: dros y penwythnos yn America, bu chwech achos gwahanol o saethu torfol. Un o'r rhain oedd y gwaethaf yn hanes y wlad; mae cadarnhad bod 49 wedi'u lladd mewn clwb nos yn Orlando sy'n boblogaidd â phobl hoyw. Dyma'r gyflafan waethaf yn erbyn hoywon yn y gorllewin ers yr Holocost.

Americanwr oedd y llofrudd, yn enedigol o Efrog Newydd, ond mae ei rieni o Affganistan. Mae'n debyg bod Omar Mateen wedi ffieiddio o weld dau ddyn yn cusanu, ac wedi mynd ati'n benodol i dargedu'r clwb hwn. Fe ddatganodd ei gefnogaeth i'r Wladwriaeth Islamaidd, ac er ei bod yn annhebygol bod y grŵp hwnnw wedi chwarae rhan yn y cynllunio, roeddent yn berffaith hapus i dderbyn y 'clod'. Unwaith y daeth i'r amlwg bod modd beio'r cyfan ar islam, roedd ymateb ceidwadwyr y wlad mor anochel ag y buasech wedi tybio.

Byddai ychydig o gyd-destun yn ddefnyddiol fan hyn. Bu ymosodiad erchyll ar Ysgol Sandy Hook yng Nghonnecticut ar Ragfyr 14, 2012, a lladdwyd 27. Roedd 20 ohonynt yn blant chwech a saith oed. Y gyflafan yn Orlando oedd y 998fed achos o saethu torfol ers hynny. Mae hynny'n cyfateb i bron un bob dydd, tros gyfnod o dair blynedd a hanner. Er y sgrechian gan geidwadwyr bod 'islamiaeth radical' yn bygwth y weriniaeth, dim ond tri o'r ymosodiadau hyn a gyflawnyd gan fwslemiaid eithafol. Wrth gwrs mae terfysgaeth islamaidd yn broblem (fel rwyf wedi'i drafod droeon), ond mae'n berffaith amlwg i bawb synhwyrol bod perthynas rhwng y rhestr anferth yma o achosion o saethu (sy'n hollol unigryw yn y byd gorllewinol) ac obsesiwn Americanwyr â gynnau. Er bod Mateen eisoes wedi dod i sylw'r gwasanaethau cudd yn y gorffennol, bu modd iddo brynu assault rifle AR-15 yn gwbl gyfreithlon. Arf ar gyfer maes rhyfel yw hwnnw; nid oes rheswm o fath yn y byd i'r fath beth fod ar gael i unigolion preifat.

Cri ceidwadwyr yw bod angen cadw Americanwyr yn saff. Y ffordd amlwg o wneud hynny yw newid y polisi gynnau, ond mae hynny'n wrthun iddynt. Yn anffodus, o gofio na newidiodd unrhyw beth yn dilyn y golygfeydd arswydus o Sandy Hook, nid oes llawer o obaith y bydd pethau'n wahanol y tro hwn chwaith. Mynnir na ddylid 'politiceiddio' digwyddiadau fel hyn. 'Nid nawr yw'r amser' i drafod y broblem gynnau, meddent. Lol llwyr yw hynny: dyma'r union amser i siarad am y peth a gweithredu. Os nad nawr, pryd? Esgus i aros i'r mater fynd yn angof a llithro oddi ar yr agenda yw dweud na ddylid trafod newid polisi fel ymateb uniongyrchol i'r fath ymosodiadau.

Llawer gwell gan y Gweriniaethwyr yw eistedd ar eu dwylo a gwneud dim ond cynnig eu 'meddyliau a'u gweddïau'. Dyna un o'm cas ymadroddion. Mae'n waeth nag ofer, a'n cymryd lle ateb go iawn. Mae gan aelodau'r Gyngres y gallu i rwystro ymosodiadau fel hyn trwy gyflwyno deddfau. Nid yw'r malu cachu diog a gwag yna'n helpu unrhyw un. Yn wir, mae hyd yn oed yn fwy rhagrithiol na'r arfer yn yr achos hwn, gan fod polisïau'r Gweriniaethwyr tuag at bobl hoyw'n llawn casineb hyll. Cafwyd y datganiad hwn gan Ted Cruz, er enghraifft, y dyn a ddaeth yn ail i Trump yn ras ar gyfer enwebiad arlywyddol y blaid eleni. Dywedodd:
If you’re a Democratic politician and you really want to stand for LGBT, show real courage and stand up against the vicious ideology that has targeted our fellow Americans for murder.
Mae'r rhagrith yn codi cyfog. Nid oes gan Cruz unrhyw hawl i'r tir uchel moesol ar fater hawliau pobl LHDT, gan fod poeri casineb tuag atynt wedi bod yn sail i'w holl yrfa wleidyddol. Yn wir, fe rannodd lwyfan â Christion eithafol o'r enw Kevin Swanson sy'n dweud yn blaen y dylid dïenyddio pobl hoyw. Pan mae ymgeiswyr arlywyddol yn cofleidio rhywun felly, pa ryfedd bod rhywun yn mynd i geisio rhoi'r syniadau ar waith? Gan fod Cruz wedi gwrthod sawl cyfle i gondemnio Swanson, dylai fod yn onest a chymeradwyo Mateen.

Yr unig reswm mae ceidwadwyr y Gweriniaethwyr wedi cynhyrfu am y gyflafan hon yw mai mwslem oedd yn gyfrifol. Yn y cyfamser, ar yr un diwrnod, arestwyd dyn yn Los Angeles oedd ar ei ffordd i ymosod ar ddigwyddiad LA Pride. Roedd ganddo lond car o arfau a ffrwydron. Dyn gwyn o'r enw James Howell oedd hwnnw, a Christion yn ôl pob tebyg. Rhagfarn a chasineb yn erbyn pobl hoyw yw'r broblem fan hyn. Dylid canolbwyntio ar y dioddefwyr. Nid yw union ffydd y sawl sy'n eu targedu'n arbennig o bwysig; ffwndamentaliaid treisgar a rhagfarnllyd yw'r gelyn, beth bynnag eu hunion ddaliadau crefyddol. Mae'n anodd dweud y gwahaniaeth rhyngddynt yn y pen draw. Os yw'r Gweriniaethwyr o ddifrif am wrthwynebu'r Wladwriaeth Islamaidd, dylent gofleidio ac arddel hawliau pobl LHDT. Y gwir yw eu bod yn debycach i'w gelynion honedig nag y maent yn barod i'w gydnabod.

Diweddariad 14/6/16 18:25

Mae awgrymiadau erbyn hyn bod Mateen wedi mynychu'r clwb yn rheolaidd. Hyd yn oed os yw'n wir ei fod yn hoyw ei hun, ac mai hunan-gasineb neu rwystredigaeth ynghylch ei fethiannau rhamantaidd oedd ei gymhelliad, ni fyddai hynny'n newid unrhyw beth. Byddai'r ymosodiad yr un mor homoffobig. Fel yn achos Elliot Rodger, y misogynydd ifanc a benderfynodd bod ei anallu i ddarbwyllo'r un ferch i fod yn gariad iddo'n reswm da i saethu chwech o'i gyd-fyfyrwyr yn farw a chlwyfo 13 arall, y dybiaeth yw bod ganddynt hawl ddwyfol i gael mynediant i gyrff pobl eraill. Fel mae sawl un wedi nodi, symptom o machismo gwenwynig yw'r agwedd yma. Yr un machismo sy'n clodfori gynnau. Mae'r cyfuniad yn berygl bywyd, a menywod a lleiafrifoedd gorthrymedig sy'n dioddef waethaf.

No comments:

Post a Comment