03/04/2016

Rhagrith y gwrth-erthylwyr

Roedd yn hwyl gwylio'r ymateb i sylwadau Donald Trump ynghylch erthyliad ychydig ddyddiau yn ôl. Wrth geisio egluro ei safbwynt ynghylch erthyliad, dywedodd y dylid cosbi menywod sy'n dewis difa'u ffetws (fe dynnodd y sylwadau'n ôl yn fuan wedyn). Mae'r syniad hwnnw'n erchyll, ac fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl, cafodd feirniadaeth chwyrn gan bawb sy'n cefnogi hawl menywod i reolaeth dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Ond cafodd ei gondemnio gan lawer o'r garfan gwrth-erthyliad hefyd, gan gynnwys yr ymgeiswyr eraill ar gyfer enwebiad arlywyddol ei blaid, ac roedd eu sylwadau'n ddadlennol.

Mae Ted Cruz yn eithafwr yn ngwir ystyr y gair ynghylch y mater yma. Mae'n gwrthwynebu erthyliad ym mhob senario, gan gynnwys pan gafodd perchennog y groth ei threisio, ac mae wedi brolio cefnogaeth oddi wrth grwpiau sy'n annog trais yn erbyn doctoriaid. Condemnio Trump o'r dde a wna Cruz, gan ddweud bod hyn yn dangos nad yw hwnnw'n deall y pwnc yn iawn ac nad yw, mewn gwirionedd, yn wrth-erthylwr o argyhoeddiad.

Fel mae'n digwydd, mae'r cyhuddiad hwnnw'n berffaith wir. Ychydig flynyddoedd yn ôl, wedi'r cyfan, roedd Trump yn llafar o blaid hawl menywod i erthylu. Er mai apêl Trump i'w gefnogwyr yw ei fod yn 'ei dweud hi fel y mae', mae'n amlwg mai dweud beth bynnag sy'n gyfleus ar y pryd a wna.

Mae ymgyrchwyr gwrth-erthyliad profiadol wedi treulio degawdau lawer yn llunio'u neges yn ofalus. Gwyddant yn iawn bod y syniad o gosbi menywod yn hynod amhoblogaidd, felly ânt i ymdrech fawr i osgoi dilyn y trywydd hwnnw'n gyfan gwbl. Gan fod Trump yn ddyn gwirioneddol dwp, fodd bynnag, nid oedd yn deall hyn, a phan ofynnwyd y cwestiwn, fe syrthiodd yn rhwydd i'r trap. Trwy roi'r fath sylw i'r syniad o gosbi menywod, mae Trump wedi peryglu naratif ofalus yr ymgyrchwyr mwy slic.

Nid oes ryfedd i'r rheiny ddychryn. Eu problem yw bod Trump wedi amlygu gwall anferth yn eu rhesymeg: os yw erthylu gyfystyr â llofruddio, pam gwrthwynebu cosbi'r llofruddwyr? Rydym yn cosbi llofruddwyr ym mhob achos arall. Yr unig wahaniaeth yw amhoblogrwydd y syniad ymysg trwch y boblogaeth. Ond yn rhesymegol, nid yw'r anghysondeb yn dal dŵr o gwbl. Am yr un rheswm, mae safbwynt Cruz, sydd eisiau gwrthod caniatáu eithriadau yn achos trais a llosgach, yn fwy cyson nag un Kasich, sydd am eu caniatáu. Os derbyn mai lladd yw difa ffetws, nid yw amgylchiadau creu'r ffetws hwnnw'n berthnasol o gwbl.

Mae ateb syml iawn i'r anghysondeb yma, wrth gwrs: nid lladd yw erthylu. Hawdd.

No comments:

Post a Comment