10/06/2015

Sut i beidio herio coegfeddygon

Mae cylchgrawn a gwefan ofnadwy o'r enw What Doctors Don't Tell You wedi bodoli ers rhai blynyddoedd, bellach. Casgliad o gelwyddau a honiadau di-sail am ffug-driniaethau 'amgen' ydyw, ac mae sceptigiaid - gan gynnwys fi - yn llawn dirmyg tuag at y cyhoeddiad. Siom enfawr, fodd bynnag, oedd gweld y pwt yma yn y Private Eye diweddaraf:

Dylid nodi, efallai, bod gan Private Eye hanes o fod yn or-garedig i WDDTY. Tybed a yw'r ffaith bod y ddau gylchgrawn yn cael eu dosbarthu gan yr un cwmni, Comag, yn ffactor yn hynny o beth? Nid oes manylion am y sylwadau cas ar Facebook ac ati, felly mae'n anodd barnu (os oedd rhai ar eu tudalen, maent wedi'u dileu). Rwyf wedi edrych yn frysiog ond heb ganfod unrhyw enghreifftiau o'r hyn a awgrymir. Ond os nad yw hynny'n eglur, mae'r bygythiadau a'r hacio'n swnio'n ddi-amwys. Mae ymddygiad felly'n amlwg yn warthus ac anfaddeuol.

Mae'r arfer o fygwth trais rhywiol yn ddirgelwch anferth i mi: beth ddiawl sy'n mynd trwy feddwl y math o berson sy'n hapus i wneud hynny? Yn anffodus, mae wedi dod i'r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf bod rhywiaeth yn broblem o fewn y 'gymuned' o sceptigiaid ac anffyddwyr ar y we, ac nad ydym fawr gwell, os o gwbl, na'r boblogaeth yn gyffredinol yn hynny o beth. Os oes gan garfan ohonom yr argraff bod yr uchod yn ffordd synhwyrol o ymateb i'n 'gelynion', yna mae gennym broblem fawr y mae angen ei datrys ar fyrder.

Yn ogystal â bod yn anfoesol, mae nonsens fel hyn yn wrth-gynhyrchiol gan ei fod yn dilysu persecution complex y bobl sy'n hyrwyddo 'triniaethau' amgen. Mae cyhoeddwyr WDDTY eisoes yn awchu i bortreadu eu hunain fel Dafyddiaid bychain yn brwydro'n ddyfal yn erbyn Goliath y sefydliad meddygol gormesol a llwgr, sef naratif gyfarwydd pob quack. Y peth olaf sydd ei angen yw i rai ffyliaid roi hygrededd i'r naratif honno.

No comments:

Post a Comment