29/03/2015

Y Fam Teresa

Darllenais The Missionary Position (cyhoeddwyd ym 1994) gan Christopher Hitchens yn ddiweddar. Polemig byr ydyw. Afraid dweud nad yw'n garedig â'r diweddar Anjezë Gonxhe Bojaxhiu (mae'n debyg mai teitl amgen cynnar oedd Sacred Cow).

Amcan Hitchens oedd chwalu'r argraff gyffredinol ohoni fel santes llawn daioni. Mae rhai o'r problemau gyda'i gwaith bellach yn gymharol hysbys, ond mae tuedd o hyd i'w hesgusodi. Roedd ei chalon yn y lle iawn, meddir. Ond na. Dylid bod yn berffaith glir fan hyn: nid camgymeriadau'n deillio o fwriadau da oedd y rhain. Roedd yr amcanion eu hunain yn warthus. Yn fy marn i, roedd hi'n ddynes wirioneddol ofnadwy ym mhob ffordd.

Asgetig oedd hi, yn clodfori tlodi a dioddefaint er eu mwyn eu hunain. Er i'w helusen dderbyn miliynau lawer mewn rhoddion (gan gynnwys o ffynonellau pur amheus), llwm iawn oedd yr amodau i bawb yn ei gofal. Nid yw'n glir hyd heddiw i ble aeth llawer o'r arian yma.

Mae'n amhosibl dyfalu faint a fu farw'n gwbl ddi-angen. Ar ben hynny, ac er iddi geisio honni nad creadur gwleidyddol mohoni, roedd hi'n weithgar iawn ei gwrthwynebiad i atalgenhedlu ac erthyliad (dyna oedd prif bwnc ei haraith wrth dderbyn Gwobr Heddwch Nobel ym 1979). O gofio sefyllfa Calcota o bob man, lle mae problemau gorboblogi'n cyrraedd lefelau hurt dros ben, mae hynny'n arbennig o anghyfrifol. (Gyda llaw, mae'n werth nodi fan hyn bod Hitchens, yn anffodus, yn arddangos peth cydymdeimlad â'r farn gwrth-erthyliad, er bod ei feirniadaeth o safbwynt y lleian yn chwyrn hefyd).

Yn dilyn trychineb diwydiannol Bhopal ym 1984, ei chyngor hollol annefnyddiol i'r dioddefwyr a'r rhai mewn galar, yn syth wedi'r digwyddiad, oedd 'maddeuer, maddeuer, maddeuer'. Rwy'n credu bod hynny'n dweud cyfrolau am wacter anfoesol ei diwinyddiaeth. Lladdwyd miloedd gan esgelustod Union Carbide, ac nid trwy faddau y ceir cyfiawnder. Yn yr un ffordd, ni ddylid maddau i'r Fam Teresa chwaith am y niwed enbyd a wnaeth hithau.

No comments:

Post a Comment