09/03/2015

Amcanion a chymhellion y Wladwriaeth Islamaidd

Mae yna erthygl ragorol iawn yn rhifyn cyfredol The Atlantic, yn trafod gwreiddiau ac ideoleg y Wladwriaeth Islamaidd. Mae'n hir dros ben, ond mae'n werth darllen y cyfan.

Prif neges yr ysgrif yw ei bod yn amhosibl deall y Wladwriaeth Islamaidd heb werthfawrogi dwy ffaith bwysig. Yn gyntaf, crefydd - hynny yw, fersiwn apocalyptaidd o islam y seithfed ganrif - sy'n lliwio popeth maent yn ei wneud. A'n ail, maent yn wahanol iawn i al-Qaeda mewn sawl ffordd.

Rwyf eisoes wedi trafod tuedd anffodus rhai pobl (gan gynnwys Barack Obama) i alw'r terfysgwyr yn 'anislamaidd'. Yn achos Obama, ymgais i gefnogi mwslemiaid cymhedrol yw hynny ac mae'n anodd peidio cydymdeimlo â hynny i raddau. Ond rwy'n gobeithio'n arw bod yr arlywydd, yn breifat, yn cydnabod mai nonsens yw hynny. Nid oes un 'gwir' islam. Y ffaith ddigalon yw bod adnodau niferus yn y Corán sy'n cefnogi'r hyn a wneir yn enw'r Wladwriaeth Islamaidd.

Wrth gwrs mae ffactorau gwleidyddol, hanesyddol a diwylliannol ar fai am roi'r cyfle i'r Wladwriaeth Islamaidd feddiannu darn maint Prydain o'r Dwyrain Canol. Ond erys y ffaith mai cwlt crefyddol ydyw. Mae'r bobl yma'n credu, gydag arddeliad, bod proffwydoliaeth am gael ei gwireddu, sef bod brwydr fawr waedlyd gyda byddinoedd 'Rhufain' (sef 'y byd Cristnogol', sef America) ar fin digwydd yng ngogledd Syria, a bod hynny'n mynd i fod yn arwydd bod y byd yn mynd i orffen. Gosod popeth yn ei le er mwyn annog y senario yma y mae'r Wladwriaeth Islamaidd yn ei wneud ar hyn o bryd (y cam cyntaf oedd sefydlu califfiaeth), a dyna, efallai, y rheswm pennaf y byddai America'n wirion i gael eu temtio i anfon milwyr i ymladd ar lawr gwlad yno. Dyna'n union fyddai'r Wladwriaeth Islamaidd yn awyddus iawn i'w weld.

Cwestiwn academaidd, efallai, yw ai ffasgaeth grefyddol ynteu crefydd ffasgaidd yw'r hyn a geir yma. Fy ngreddf yw mai'r ail sy'n wir. Mae tuedd weithiau i dybio mai rhyw fath o facade yw'r hyn y mae grwpiau fel y Wladwriaeth Islamaidd yn ei ddweud, sef bod eu cwynion go iawn yn rai seciwlar a gwleidyddol ac mai modd o ddenu cefnogaeth yw eu mynegi mewn termau crefyddol. Hwyrach bod elfen fach o wirionedd i hynny yn achos al-Qaeda, ond mae'r Wladwriaeth Islamaidd yn wahanol yn ei hanfod. Eschatoleg pur sy'n sail i bopeth yn eu hachos hwy. Yn syml iawn, dylem eu derbyn wrth eu gair.

Goblygiadau hyn yw nad oes modd trafod â'r Wladwriaeth Islamaidd. Mae hyn yn llythrennol wir; nawr bod ganddynt eu califfiaeth, nid ydynt yn cydnabod unrhyw endid gwleidyddol arall. Iddynt hwy, byddai unrhyw drafod gyda rhywun allanol yn anislamaidd. Sicrhau diwedd y byd cyn gynted â phosibl yw'r nod. Mae mor ddu a gwyn â hynny. Nid oes gennyf syniad beth yw'r ateb yn y pen draw, ond mae deall a derbyn eu cymhellion yn fan cychwyn hanfodol, ac mae'r ysgrif yn eu hegluro'n gampus.

No comments:

Post a Comment