19/02/2015

Pan mae anffyddwyr yn lladd

Gan fy mod wedi bod yn trafod llofruddiaethau gan derfysgwyr islamaidd yn ddiweddar, gwell fyddai peidio anwybyddu'r newyddion ofnadwy bod anffyddiwr wedi saethu tri mwslem yn farw yng Ngogledd Carolina yr wythnos ddiwethaf.

Mae gwahaniaethau amlwg a sylfaenol, wrth gwrs. Nid yw'n sicr pa mor berthnasol oedd anffyddiaeth Craig Hicks  wrth iddo wneud yr hyn a wnaeth; mae'n debyg mai ffrae ynghylch llefydd parcio oedd asgwrn y gynnen. Yn achos yr ymosodiadau ym Mharis a Chopenhagen, ar y llaw arall, roedd cymhellion crefyddol ac ideolegol y llofruddwyr yn hollol ddi-amwys. Eto i gyd, mae marwolaethau torcalonnus Deah Shaddy Barakat, Yusor Mohammad Abu-Salha a Razan Mohammad Abu-Salha yn codi cwestiynau am natur anffyddiaeth, troseddau casineb, a'r disgwyliad bod aelodau o leiafrifoedd yn condemnio popeth drwg a gyflawnir gan unrhyw aelodau eraill o'r lleiafrifoedd hynny.

Rhoddodd y cyfryngau Americanaidd gryn sylw i'r ffaith bod cyfrif Facebook Hicks yn llawn deunydd gwrth-grefyddol, gan ofyn a ydynt wedi'i ddylanwadu i gyflawni'r fath drosedd. Mae hynny'n destun ychydig o ofid ar un olwg, oherwydd, wel, mae f'un innau hefyd. Ond dylid pwysleisio nad oedd unrhyw awgrym yn y stwff yma ei fod yn arddel trais. Yn wir, dywed yn blaen, ar fwy nag un achlysur, ei fod yn cefnogi hawl pob person i arddel a mynegi ffydd grefyddol, ac mae ei safbwyntiau yn gyffredinol yn ddigon blaengar. Buaswn yn cyd-fynd yn llon â llawer. Hyd y gwelaf i, y gwahaniaeth mwyaf rhyngddo a mi yw ei hoffter o ddrylliau a'r hawl i'w cadw (gyda chanlyniadau trychinebus yn yr achos hwn).

Efallai wir mai ffrae wirion am le i barcio car oedd wrth wraidd y digwyddiad. Mae rhai anffyddwyr wedi defnyddio hyn er mwyn osgoi'r cwestiynau uchod ac i wadu'r posibilrwydd bod ei anffyddiaeth wedi chwarae rhan. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod hynny'n dal dŵr. Os mai dyna'r rheswm y lladdwyd y tri pherson yma, faint o ryddhad yw hynny mewn gwirionedd o'n safbwynt ni? Mae lladd pobl oherwydd llefydd parcio yn boncyrs. Red herring yw'r ffrae am barcio, mewn gwirionedd. A fyddai Hicks wedi saethu tri pherson yn farw, mewn amgylchiadau cyffelyb, pe na baent yn fwslemiaid? Mae'n gwestiwn teg, heb fodd o ganfod yr ateb. Rwy'n ei chael yn anodd anwybyddu'r posibilrwydd y byddai wedi bod yn llai tebygol o wneud hyn petaent yn wyn.

Mae rhai wedi galw'r llofruddiaethau'n weithred derfysgol, a pham lai? Beth bynnag oedd cymhelliad Hicks (ac mae'n bosibl iawn na chawn fyth ateb clir), mae'r sgil-effeithiau yr un fath â gweithred derfysgol glasurol. Arbrawf meddwl defnyddiol ar adegau fel hyn yw dychmygu'r gwrthwyneb: petai mwslem wedi saethu tri Christion neu anffyddiwr gwyn yn farw, ffrae am barcio neu beidio, gallwch fod yn sicr mai terfysgaeth fuasai'r gair. Er gwell neu er gwaeth, mae pwy laddodd pwy yn ffactor lawn mor arwyddocaol â'r weithred ei hun. Nid oes modd dadansoddi troseddau fel hyn mewn modd haniaethol. Oherwydd hyn, rwy'n teimlo'r angen i wneud pwynt o gondemnio'r lladd.

Rwyf wedi bod yn dweud ers peth amser bod angen i anffyddiaeth fod yn fwy na 'diffyg cred mewn duw' yn unig, dim ots beth a ddywed yr anffyddwyr hynny sy'n hoff o chwifio geiriaduron. Cyhuddiad crefyddol cyffredin iawn yn erbyn anffyddiaeth yw ei bod yn arwain at wacter moesol. Nid yw achosion fel hyn yn help o gwbl. Dyma'n union pam nad yw 'dim duw' yn ddigon. Mae gan anffyddiaeth oblygiadau, ac mae'n amhosibl gwahanu'r ddau beth. Rhywsut neu ei gilydd, cafodd yr anffyddiwr penodol hwn yr argraff bod lladd tri mwslem yn syniad gwerth chweil. Dylem gondemnio hynny'n chwyrn, ac egluro bod anffyddiaeth yn golygu ein bod i gyd yn rhannu planed heb oruchwyliaeth ddwyfol. Ein hunig ddewis yw canfod ein moesoldeb yn ein perthynas â'n gilydd, a thrin eraill fel y dymunem iddynt ein trin ninnau.

No comments:

Post a Comment