05/02/2015

Cywirdeb gwleidyddol a rhyddid mynegiant

Dywedais yn ddiweddar fy mod yn greadur digon 'gwleidyddol gywir' ar y cyfan. Rwyf wedi bod yn meddwl llawer am hyn yn y cyfamser, yn enwedig gan fod cryn ddadlau wedi bod yn ddiweddar yn dilyn cyhoeddi'r erthygl hon gan Jonathan Chait, lle mae'r awdur yn cwyno am 'gywirdeb gwleidyddol', gan ddadlau ei fod yn arwain at sensoriaeth.

Rhestra Chait nifer o achosion sydd, yn ei dyb ef, yn dangos rhyddid mynegiant yn cael ei lyffetheirio. Mae rhai o'r cyhudddiadau'n deg; yn amlwg, ni ddylid bygwth pobl, ymosod arnynt, na dinistrio eiddo. Mae eraill yn annheg.

Prif broblem yr ysgrif, yn fy nhyb i, yw'r dybiaeth bod cywirdeb gwleidyddol yn ffenomen sy'n nodweddu'r chwith wleidyddol, gyda'i phwyslais ar gyfiawnder cymdeithasol, yn unig. Dewisa Chait ganolbwyntio ar gampysau prifysgolion, gan bryderu bod America wedi magu cenhedlaeth o sensoriaid gor-sensitif o'r chwith sy'n gormesu pawb nad ydynt yn atddel yr orthodocsi ynghylch cyfiawnder cymdeithasol. Y gwir, wrth gwrs, yw nad yw hyn yn ffenomen newydd o gwbl, a bod y dde lawn mor 'euog' o'r un hen beth. Mae gwrthwynebwyr erthyliad, er enghraifft, yn defnyddio'r un tactegau'n union (ac mae llawer ohonynt yn fwy ymosodol o lawer na'r enghreifftiau a restra Chait).

Mae pawb - pob un ohonom, yn ddi-eithriad - yn 'wleidyddol gywir' yn ein ffyrdd ein hunain. Beth yw cywirdeb gwleidyddol, wedi'r cyfan? Yn y pen draw, dyma'r syniad bod rhai labelau neu safbwyntiau yn 'annerbyniol', er enghraifft oherwydd eu bod yn sarhus. Tros y degawdau diwethaf mae lled-gonsensws wedi datblygu yn ein cymdeithas bod defnyddio epithetau hiliol, homoffobig neu rywiaethol yn arferiad drwg. Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod hyn yn ddatblygiad iach.  Dyna esiampl glasurol o'r math o beth sy'n neidio i'r meddwl wrth i ni feddwl am gywirdeb gwleidyddol, oherwydd cysylltir y cysyniad fel arfer ag ymdrechion i warchod carfannau llai grymus ein cymdeithas.

Sylwer, gyda llaw, nad mater i'r gyfraith yw hyn. Mae'n wir bod 'cyfreithiau casineb' yn bodoli, ond rwy'n eu gwrthwynebu'n chwyrn. Y cyfan sydd ei angen yw i'r defnydd aneironig o'r fath dermau fod yn dabŵ. Nid yw condemnio'r defnydd o air hiliol yn tarfu ar ryddid mynegiant y siaradwr o gwbl. Mae hyn yn allweddol: os dywedaf 'na ddylech' ddweud rhywbeth, nid wyf yn arddel eich gwahardd rhag dweud hynny. Modd o fynegi anghytundeb ydyw, dyna i gyd.

Dychwelwn at y pwynt: ceir tabŵs ynghylch pob math o bynciau, gan gynnwys llawn cymaint sy'n annwyl i'r dde ag sydd i'r chwith. Er enghraifft, ydych chi'n cofio'r ffwdan yn America ar ôl i'r Dixie Chicks feirniadu'r rhyfel yn Irác? Fe'u hesgymunwyd, i bob pwrpas. Beth oedd hynny os nad 'cywirdeb gwleidyddol' ar waith? Mae'n 'wleidyddol anghywir' i ddweud unrhyw beth angharedig am y fyddin, boed yn America neu ym Mhrydain. Mae'r un peth yn wir am y frenhiniaeth, i'r graddau bod clywed gwleidydd yn cyfeirio at Elizabeth II fel 'Mrs Windsor' yn destun sioc. Cywirdeb gwleidyddol hefyd sy'n golygu bod crefydd yn parhau i dderbyn parch anhaeddiannol. Yn y Gymru Gymraeg, rydym yn cynhyrfu'n lân pan mae rhywun hanner-enwog yn dweud rhywbeth dwl am ein hiaith, a'r gwrthwyneb sy'n wir os yw Cymro amlwg yn tynnu sylw at yr hyn sy'n ei bygwth, megis y mewnlifiad. Enghraifft waeth o lawer yw'r math o ymateb lloerig sy'n wynebu ffeminyddion ar y we. Ie, adwaith yn erbyn cywirdeb gwleidyddol ffeminyddol ydyw, ond math o gywirdeb gwleidyddol adweithiol yw hyn hefyd yn ei dro. Bygythiadau a phoenydio yw hoff dactegau llawer o'r misogynistiaid hyn, ac mae hynny'n haeddu sylw gan yr heddlu. Ond y pwynt yw bod pawb yn ystyried rhai mathau o safbwyntiau'n gwbl wrthun.

Felly, pan glywch bobl yn cwyno am 'gywirdeb gwleidyddol y chwith', y cyfan y maent yn cyfeirio ato mewn gwirionedd yw math penodol o gywirdeb gwleidyddol y maent yn digwydd anghytuno ag ef. Mae'r union bobl hynny'n coleddu cywirdeb gwleidyddol gwahanol eu hunain (a'n cwyno pan mae rhywun yn torri eu hoff dabŵs hwythau). Nid cywirdeb gwleidyddol y maent yn galw'u fersiynau eu hunain, wrth gwrs, ond nid oes gwahaniaeth ymarferol. Ystyr 'cywirdeb gwleidyddol', yn hynny o beth, yw 'pan mai'r ochr arall sydd wrthi'.

Mae Chait yn amlygu'r pwynt yn berffaith trwy fod yn euog o ragrith yn ei ysgrif. Cyfeiria at achos lle cafodd myfyriwr o leiafrif ethnig ei ddiswyddo o bapur newydd prifysgol am ddychanu 'culture of taking offense that pervades the campus'. I Chait, mae hyn yn bygwth rhyddid mynegiant. Beth bynnag eich barn am hynny, y ffaith yw bod Chait ei hun, yn 2009, wedi galw am ddiswyddo newyddiadurwr am ddweud rhywbeth nad oedd yn ei hoffi. Digon pitw oedd y rheswm, hefyd. Ond mae hynny'n wahanol, am wn i, am resymau dirgel.

Fe welwch ragrith yn aml iawn pan mae pobl yn cwyno am gywirdeb gwleidyddol, felly. Ond rhown y safonau dwbl i'r naill ochr am eiliad. A yw galw am ddiswyddo newyddiadurwr am fynegi safbwynt 'annerbyniol' yn niweidio rhyddid mynegiant? Yr ateb plaenaf yw 'na'. Wedi'r cyfan, mae'r weithred o alw am y diswyddiad yn enghraifft o fynegiant barn ynddo'i hun (cyn belled nas defnyddir trais, wrth gwrs). Nid oes raid i'r papur dalu sylw. Os oes boicot o'r papur, mynegiant o farn yw hynny hefyd. O safbwynt y papur, nid oes dyletswydd arnynt i ddarparu platfform. Ystyr rhyddid mynegiant yw'r hawl i ddweud eich dweud heb boeni am gael eich niweidio neu eich harestio; nid yw'n golygu bod cyfrifoldeb ar bobl eraill i roi llwyfan i chi, nac i wrando arnoch (mae troliaid ar y we yn enwog am eu hanallu i amgyffred y pwynt syml yma). Celwydd llwyr yw'r awgrym bod tactegau fel hyn yn unigryw i'r chwith.

Cwestiwn arall yw doethineb y dacteg yn gyffredinol. Yn gyffredinol, fy marn yw mai'r ateb gorau i farn hyll neu dwp yw defnyddio ein rhyddid mynegiant ein hunain drachefn er mwyn condemnio. Byddai galw am ddiswyddo pob newyddiadurwr sy'n anghytuno â ni'n arwain at fyd lle mae pawb yn byw mewn siambr eco, lle nad yw unrhyw un yn dod ar draws barn wahanol i'r hyn y maent eisoes yn ei harddel. Mae gwerth i amrywiaeth barn. Ond nid mater o ryddid mynegiant yw hyn o gwbl.

Mae'r un peth yn wir yn achos atal gwahoddiadau i draddodi darlithiau, fel (fel y dywed Chait) sydd wedi digwydd yn ddiweddar i Bill Maher, Christine Lagarde, Ayaan Hirsi Ali a Condoleezza Rice, yn dilyn protestiadau gan fyfyrwyr. Fel rheol, unwaith mae siaradwr wedi derbyn gwahoddiad i ddod i siarad, fy nheimlad personol yw ei bod yn anghwrtais a dryslyd i dynnu'r gwahoddiad yn ôl (hyd yn oed yn achos Rice, sy'n derbyn symiau anferthol o arian am wneud y pethau yma, er ei bod nesaf peth at fod yn droseddwraig rhyfel). Ond rwy'n credu bod cwestiynu doethineb y gwahoddiad yn y lle cyntaf yn berffaith resymol. Beth bynnag, fel yn achos y paragraff blaenorol, nid mater o ryddid mynegiant mo hyn y naill ffordd na'r llall.

Nid yw'r cyhuddiad o gywirdeb gwleidyddol yn arbennig o ystyrlon, felly. Gorchest y dde wleidyddol yn y 90au cynnar oedd bathu'r ymadrodd, ei gysylltu'n benodol a daliadau llawer ar y chwith, a'i bortreadu fel cysyniad newydd eithriadol o niweidiol. Bu'r celwydd hwnnw'n lwyddiant mawr. Ffordd ddiog ydyw, yn y bôn, o golbio pobl sy'n anghytuno â chi. Mae pawb yn wleidyddol gywir. Ac os yw'n wir am bawb, nid oes pwrpas defnyddiol i'r label.

Rhof y gair olaf i Stewart Lee:

No comments:

Post a Comment