30/06/2014

Dan Yr Wyneb

Yn gynharach heno bûm yn cyfrannu'n fyw i raglen Dan Yr Wyneb gyda Dylan Iorwerth ar Radio Cymru, yn trafod eithafiaeth fwslemaidd mewn ysgolion a ffydd yn y system addysg. Gallwch wrando ar y rhaglen fan hyn (yr eitem gyntaf).

Roeddwn wedi disgwyl i'r rhaglen ganolbwyntio'n fwy penodol ar y ffrae ddiweddar am islam yn ysgolion Birmingham, ond ysgolion ffydd a defodau crefyddol yn y system addysg yn gyffredinol a gafodd y rhan fwyaf o'r sylw.

O wrando eto, aeth pethau ychydig yn well nag yr oeddwn yn teimlo'n syth ar ôl gadael y stiwdio. Mewn sefyllfa o'r fath, mae'n anochel am wn i eich bod yn anghofio gwneud ambell bwynt amlwg a chicio'ch hunain wedyn. Dyma, felly, ambell sylw er mwyn ymhelaethu ac egluro.

Agorais trwy ddweud bod dau begwn afresymol i'r ymateb pan mae eithafiaeth fwslemaidd yn y newyddion. Dywedais mai un oedd yr hilgwn paranoid, sy'n manteisio ar straeon o'r fath er mwyn atgyfnerthu ystrydebau anghynnes am fwslemiaid, ac hefyd gan bobl sy'n tueddu i neidio, wrth glywed am "eithafiaeth fwslemaidd", bod hynny o reidrwydd yn golygu terfysgaeth a jihad. Aeth y sgwrs yn ei blaen cyn i mi allu ychwanegu mai'r pegwn arall oedd y rheiny sy'n gwadu bod problem o gwbl, ac sy'n mynnu bod pob beirniadaeth o islam neu o gymuned fwslemaidd yn enghraifft o islamoffobia rhemp. Mae'r gwir yn y canol. Mae agweddau adweithiol yn broblem o fewn rhannau o'r gymuned fwslemaidd, ac mae'n bwysig eu herio yn yr achos hwnnw'n union fel rydym yn eu herio ym mhob man arall.

Rwy'n dal i grafu pen ynghylch f'ymateb i'r cwestiwn cyntaf ynghylch ysgolion ffydd. Efallai mai bod yn or-ddiplomataidd oeddwn i trwy ddweud nad oeddwn i'n sicr y buaswn o reidrwydd yn eu gwahardd (er i mi egluro fy ngwrthwynebiad). Ond, wel, buaswn. Nid oes modd eu cyfiawnhau o gwbl, ac rwy'n difaru peidio bod yn gadarnach.

Efallai mai fy narnau gwanaf oedd yr ymatebion i'r cwestiynau ynghylch dramâu Nadolig. Roeddwn braidd yn simsan fan hyn am ryw reswm, er fy mod yn ddigon siwr o'm barn. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, nid wyf yn hoff o'r ddefod hon. A dweud y gwir, rwy'n amheus o werth gorfodi plant pedair oed i berfformio ar lwyfan o gwbl. Mae'n ymddangos i mi mai rhywbeth i'r rhieni yw'r arfer yma, fwy nag i'r plantos nerfus truain. Er, yn bersonol, buaswn yn diflasu'n llwyr hyd yn oed petai gen i ferch neu fab yn "serennu" fel Mair neu Joseff (neu fel seren o ran hynny).

Hyd yn oed wrth wrando drachefn, ac er i mi ofyn yn benodol yn ystod y drafodaeth, nid yw'r gwahaniaeth ymarferol rhwng ysgol eglwys ac ysgol ffydd yn arbennig o eglur i mi. Yn y pen draw, system addysg seciwlar yw'r unig ffordd ymarferol o sicrhau tecwch i bawb. Mae'n anfoesol i'r wladwriaeth orfodi unrhyw un i gymryd rhan mewn defodau Cristnogol. Mae'n waeth byth yn achos plant, gan eu bod yn rhy ifanc i fod wedi penderfynu ar safbwyntiau athronyddol fel hyn beth bynnag.

No comments:

Post a Comment