21/11/2012

Pam mae menywod yn trafferthu â'r eglwys?

Dyna ni felly: mae Eglwys Loegr wedi pleidleisio'n erbyn caniatáu menywod i fod yn esgobion. Nid wyf yn poeni rhyw ormod am y peth; os unrhyw beth, rwy'n croesawu dymuniad yr eglwys i fod yn llai perthnasol ac rwy'n ystyried y penderfyniad yn un eithaf doniol.

Cofiwch chi, mae'r Beibl yn berffaith eglur ar y mater yma. Er enghraifft:
Dw i ddim am ganiatáu i wraig hyfforddi a bod fel teyrn dros ddyn; rhaid iddi ddysgu yn dawel. (2 Timotheus 2:12)

Dylai gwragedd gadw'n ddistaw yn y cyfarfodydd. Does ganddyn nhw ddim hawl i siarad. Eu lle nhw ydy derbyn y drefn, fel mae'r Gyfraith yn dweud. 35 Os ydyn nhw eisiau holi am rywbeth, maen nhw'n gallu gofyn i'w gwŷr ar ôl mynd adre; mae'n beth gwarthus i weld gwraig yn siarad yn yr eglwys. (1 Corinthiaid 34:35)
Dyna flas; mae yna lawer iawn iawn mwy, wrth gwrs.

A bod yn onest, o ddarllen yr adnodau diamwys uchod, mae'n deg cwesitynu cymhellion unrhyw fenyw sy'n galw'i hun yn gristion o gwbl. Rwy'n derbyn, fodd bynnag, bod llawer wedi canfod ffyrdd o anwybyddu'r darnau yma, gan ganolbwyntio ar yr elfennau mwy dymunol (mae'r Beibl yn lyfr hir, wedi'r cyfan; clociau wedi torri ac ati). Ond yn achos y menywod sy'n weithgar yn yr eglwys, nid oes modd dewis a dethol wrth ystyried pleidlais ddoe. Mae'r sefydliad y mae'r menywod hyn yn treulio cymaint o amser yn ei wasanaethu yn amlwg yn ddilornus iawn ohonynt a'n benderfynol o'u trin fel plant. Er fy mod yn cydymdeimlo, mae eu dyfalbarhad yn ddirgelwch i mi braidd. Yn union fel y bobl cyfunrywiol hynny sy'n aelodau o'r Blaid Weriniaethol yn America, neu'r dyn Sikh od hwnnw sy'n weithgar dros y BNP.

No comments:

Post a Comment