28/03/2012

Carchar am ddweud pethau hiliol

Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi'i ddedfrydu i 56 diwrnod o garchar heddiw am ddweud pethau hiliol mochedd ar Twitter wedi i Fabrice Muamba, pêl-droediwr Bolton Wanderers sy'n enedigol o'r Congo, gael ei daro'n ddifrifol wael yn ystod gêm. Gallwch glicio ar y llun isod i'w darllen os ydych yn dymuno.


Fel y gwelwch, nid oes amheuaeth bod yr awdur yn dwpsyn afiach a bod y sylwadau'n wirioneddol warthus. Eto i gyd, rwy'n dychryn ei fod wedi'i roi dan glo.

Wrth gwrs, byddwn wedi cymeradwyo penderfyniad gan Twitter i'w wahardd. Mae'n bosibl iawn mai dyna fyddai wedi digwydd pe na bai'r llanc wedi dileu ei gyfrif ei hun mewn panig unwaith iddo sylweddoli ei fod mewn helynt. Cwmni preifat yw Twitter, ac mae ganddynt bob hawl i sicrhau nad yw hilgwn yn cael anharddu eu gwefan.

Mae'r gyfraith yn fater arall, fodd bynnag. Fel rheol gyffredinol, nid wyf yn credu y dylai'r gyfraith drin sylwadau ar Twitter yn wahanol i sylwadau llafar mewn tafarn (dyweder). Mae'n bur debygol bod sawl hilgi twp wedi bod yn gwylio'r gêm dros beint ac wedi dweud pethau tebyg wrth eu cyfeillion. A fyddai'n deg eu carcharu petaent wedi cael eu gor-glywed? Os yw'n anghyfreithlon dweud rhywbeth mewn ysgrifen ar y we, er mwyn bod yn gyson rhaid bod yr un mor llym mewn achosion fel hynny hefyd (wrth gwrs, er mwyn cynnal y gymhariaeth yn llawn, mae gan landlord y dafarn yr un hawl i daflu pobl felly allan ag sydd gan Twitter i'w gwahardd). Os yw Liam Stacey'n haeddu carchar, efallai dylai'r heddlu sefydlu tîm arbennig er mwyn clustfeinio ar bawb ohonon rhag ofn i ni ddweud pethau annerbyniol.

Oni bai bod bygythiadau uniongyrchol yn cael eu gwneud, nid wyf yn credu y dylai pethau fel hyn fod yn fater i'r heddlu o gwbl. Ni ddylai bod yn dwat bach hiliol annifyr fod yn anghyfreithlon ynddo'i hun.

Dylai pawb fod yn nerfus am y dirywiad cyson yma yn ein rhyddid mynegiant.

5 comments:

  1. Clywch! Clywch! Fe ddylai rhyddid mynegiant fod yn egwyddor elfennol mewn cyfansoddiad unrhyw wlad ddemocrataidd.

    ReplyDelete
  2. Mae'r heddlu eu hunain yn dweud pethau cyffelyb mae'n debyg: http://www.guardian.co.uk/uk/2012/mar/30/police-racism-black-man-abuse

    ReplyDelete
  3. Stori ryfeddol, Ifan. Mae rhywun yn clywed am bethau felly'n digwydd yn America, ond yn Lloegr? Gallwn ond gobeithio bod y digwyddiad yna'n un eithriadol.

    Nid oes cymhariaeth rhwng hwnna a helynt Liam Stacey. Mae'r swyddogion heddlu sy'n gyfrifol yn bendant yn haeddu carchar. Mae'n ddychrynllyd bod y ffasiwn gociau oen wedi cael gwisgo dillad yr heddlu yn y lle cyntaf, a'n waeth byth mai ymateb cyntaf yr awdurdodau oedd ceisio'u hesgusodi.

    ReplyDelete
  4. Newydd weld yr hyn ddywedodd y dyn afiach 'ma ac mae llawer gwaeth na'r hynny ddisgwyliais ei weld wedi imi glywed am yr helynt yma'n codi ei ben am y tro cyntaf.

    Dwi'n teimlo nad yw dy gymhariaeth rhwng ei negeseuon yntau â sylwadau a glywir mewn tafarn yn ystod gêm rygbi yn gwbwl deg. Mae tueddiad i'r sylwadau hynny a wneir mewn tafarn fod yn fyr-bwyll wrth ymateb i ddigwyddiad yr eiliad honno (er, dylid cosbi neu dweud drefn wrthynt hefyd), tra mae sylwadau Liam Stacey ar twitter yn dangos atgasedd ac agwedd cwbwl cwbwl afiach tuag at Muamba a phobl du, ac mae hwn yn amlwg o fod yn arferiad ganddo o weld natur sawl un o'i sylwadau eraill. Hefyd, erbyn hyn, mae gadael nodyn o'r fath ar wefan twitter dim gwaeth na phe byddai wedi ymddangos yn y papurau newydd - mae miloedd os nad milynau mynd i'w ddarllen ac mae o yno yn ei enw ef neu hi.

    Er dwi o'r farn y dylid gael yr hawl i fynegi barn a chyfrannu i'r drafodaeth, ond yn yr achos yma, casineb pur sy'n cael ei gyfleu a hwnnw mewn arddull a natur gwbwl ffiaidd. Nid yw "rhyddid barn" na "neges twitter ydi o" yn amddifyniad i agwedd o'r fath. Mae'r boi yn haeddu 56 diwrnod yn y carchar.

    ReplyDelete
  5. Sylwadau byrbwyll oedd rhai Liam Stacey hefyd. Yn ôl pob sôn. Os deallaf yn iawn, roedd wedi meddwi mewn tafarn ar y pryd. Ond nid wyf yn credu bod hynny'n berthnasol.

    Mae'n bwysig condemnio sylwadau o'r fath cyn hallted â phosibl, ac mae'n iach bod cymaint o ddefnyddwyr Twitter wedi mynd i'r gâd yn syth a gwneud hynny mor ffyrnig. Felly dylai pethau fod. Rwy'n credu o hyd na ddylai fod gan y wladwriaeth unrhyw ran i'w chwarae, fodd bynnag,

    ReplyDelete