11/01/2012

"Milwriaethus"?

Rwyf eisoes wedi ymateb i lawer o'r pethau od a ysgrifennodd Alwyn ddoe, ond mae angen rhoi sylw ar wahan i un darn yn benodol, sef y cyhuddiad fy mod yn anffyddiwr "milwriaethus".

Rwyf wedi cyffwrdd â'r mater yma o'r blaen, ond mae'n gyhuddiad cyffredin felly rwyf am ddweud mwy.

Ym mhob achos arall, rydych angen gwneud rhywbeth difrifol iawn er mwyn ennill y label "milwriaethus". Mae Mwslemiaid "milwriaethus" yn gwneud pethau fel gwisgo gwregys llawn C4 cyn cerdded i mewn i gaffi yn Nhel Aviv er mwyn lladd cynifer o Iddewon ag sy'n bosibl. Mae rhai Cristnogion "milwriaethus" yn llofruddio doctoriaid sy'n perfformio erthyliadau. Er mwyn i anffyddiwr gael ei wobrwyo â'r bathodyn "milwriaethus", fodd bynnag, mae'n debyg mai'r cyfan sydd angen iddo neu hi ei wneud yw ysgrifennu mymryn o eiriau i'r perwyl nad yw crefydd o reidrwydd yn dda i gyd. Mae'r ffaith bod cymaint yn galw anffyddwyr fel fi (neu ffigurau enwog fel Dawkins, neu Hitchens gynt, neu unrhyw un sy'n gwneud dim ond ysgrifennu erthyglau a llyfrau ac areithio bob hyn a hyn) yn "filwriaethus" yn dangos yn eglurach na dim bod llawer yn parhau â'r argraff bod crefydd yn haeddu "parch" arbennig ac na ddylid ei feirniadu o gwbl.

Syniadaeth neu fyd-olwg yn unig yw crefydd. Nid oes unrhyw un yn anghytuno bod gan bawb rwydd hynt i feirniadu safbwyntiau unrhyw un sy'n arddel marcsiaeth, dyweder, neu gyfaladdiaeth laissez-faire, neu genedlaetholdeb, neu ôl-foderniaeth, neu unrhyw athroniaeth neu ideoleg arall. Mae hynny'n hollol gyfiawn a phwysig. Am rhyw reswm, fodd bynnag, hyd yn oed yn y Deyrnas Gyfunol lle mae'r gymdeithas dipyn yn fwy seciwlar nag yn achos llawer o wledydd eraill y byd, mae nifer fawr iawn o bobl (gan gynnwys rhai anffyddwyr) yn mynnu gosod ffydd grefyddol ar bedestal y tu hwnt i unrhyw feirniadaeth.

Yn amlwg, rwy'n ymwrthod â hynny ac un o brif amcanion y blog hwn yw dinistrio'r pedestal anhaeddiannol yma a thynnu crefydd i lawr i'r un tir gwastad â phob syniadaeth arall.

Ni ddylai fod angen i mi egluro hyn, ond nid wyf am un eiliad yn arddel trais, ac mae'r syniad o ddefnyddio grym y wladwriaeth er mwyn gorfodi pobl i feddwl mewn ffordd arbennig yn wrthun i mi. Y cyfan a wnaf yma yw ysgrifennu blog digon di-nod lle rwy'n ceisio egluro'r problemau gyda chrefydd yn bwyllog a rhesymol. A dweud y gwir, fy nghymhelliad pennaf un yw ymarfer ysgrifennu, a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy drafod pwnc sydd o ddiddordeb mawr i mi? Nid wyf yn gorfodi unrhyw un i ddarllen.

Mae hyn yn fy ngwneud yn flin. Os wyf i'n "filwriaethus", yna mae unrhyw un sy'n beirniadu unrhyw beth yn "filwriaethus" hefyd. Mae'r gair felly'n colli pob ystyr synhwyrol. Os yw ansoddair fel hwn i olygu unrhyw beth defnyddiol, dylid ei gadw ar gyfer disgrifio pobl sydd wirioneddol yn ymosodol. Fel arall, beth fydd gennym ar ôl er mwyn disgrifio eithafwyr go iawn sy'n hoffi lladd?

12 comments:

  1. Mae'n werth darllen yr erthygl fer yma ar y pwnc hefyd.

    ReplyDelete
  2. "Rwyf wedi cyffwrdd â'r mater yma o'r blaen"

    Sut oedd y mater yn teimlo am hynny?

    ReplyDelete
  3. Mae'r gair felly'n colli pob ystyr synhwyrol;

    Doniol Iawn! Wyt ti "wir yr" am honni bod cynnal blog o'r enw "anffyddiaeth" ddim yn milwrio yn erbyn ffydd? Os nad ydyw be ddiawl di diben dy flog?

    Os cofiaf yn iawn ti oedd yn cwyno ychydig yn ôl oherwydd i mi ddweud bod cam ddefnydd o phobia yn colli pob ystyr synhwyrol o wir ystyr y gair! Diffyg cysondeb braidd!

    ReplyDelete
  4. Nid camddefnydd o "ffobia": camddefnydd o "homoffobia". Mae gan y gair hwnnw ystyr ychydig yn wahanol i'r hyn a geir trwy chwarae gydag etymoleg. Nid yw "homoffobia" yn golygu rhywun sydd "ag ofn pobl gyfunrywiol" yn yr un ffordd ag y mae "aracnoffobia" yn golygu rhywun sydd "ag ofn corynod". Yn hytrach, yr arfer yn y byd sydd ohoni yw ei ddefnyddio i ddisgrifio pobl sy'n arddel safbwyntiau gwrthgyferbyniaeth. Rwy'n siwr dy fod yn gwybod hyn yn iawn.

    Mae "milwriaethus" yn ansoddair a ddefnyddir i ddisgrifio radicaliaid crefyddol sy'n gyrru awyrennau i mewn i adeiladau neu'n llofruddio doctoriaid. Oni gytunet ei bod yn eithriadol o annheg felly ei ddefnyddio er mwyn disgrifio rhywun fel fi, sy'n gwneud dim ond ysgrifennu blog?

    Y cyfan yr wyf yn ei wneud yw mynegi fy marn ac arddel safbwynt arbennig, ac anghytuno â barn pobl eraill. Fel bron pawb arall sy'n awdur ar flog, gan gynnwys ti dy hun. Os wyf i'n "anffyddiwr milwriaethus", yna rwyt tithau'n "genedlaetholwr milwriaethus"!

    ReplyDelete
  5. Twt lol botas!

    Rwy'n cenedlaetholwr milwriaethus, yn ôl Dail y Post a'r Western Mule a hyd yn oed yn ôl yr hen raglen Nationwide ar y BBC (er bu'n rhaid i'r BBC ymddiheuro imi a chynnig iawndal am wneud y fath osodiad).

    Er gwaetha'r tag milwriaethus nid ydwyf,eto, wedi lladd unrhyw un yn enw cenedlaetholdeb Cymreig.

    Rwy'n methu gyrru car, felly prin fy mod âm yrru awyren i mewn i adeiladau'r Senedd, a hyd y gwelaf nid ydwyf wedi awgrymu dy fod ti am wneud peth tebyg chwaith!

    Rwy'n cofio clywed Waldo Williams a'r Parch O.M Lloyd yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn "filwriaethus" o balid heddychith!

    Nid dy ddiffyniad di o ystyr gair yw'r unig ystyr iddi, i ddweud y gwir rwy'n gweld y tuedd yma ynot braidd yn bethma.

    O ran ystyr y gair Phobia, yr wyf wedi gweithio ym myd iechyd meddwl am dros bymtheg mlynedd ar hugain, rwy'n gwybod, o wir brofiad, ing pobl sy'n goddef o phobia go iawn.

    Rwy'n methu gwahaniaethu rhwng anaddasrwydd y termau Homoffobia, Islamoffobia, Euroffobia ac ati a Homospastic, Eurospastic neu Islamospastic.

    Ond dyna fo rwy'n twpsyn sy'n credu yn Nuw a Sky Fairies a gan hynny dyw fy marn i yn cyfrif am ffyc ol!

    ReplyDelete
  6. "Rwy'n cenedlaetholwr milwriaethus, yn ôl Dail y Post a'r Western Mule a hyd yn oed yn ôl yr hen raglen Nationwide ar y BBC (er bu'n rhaid i'r BBC ymddiheuro imi a chynnig iawndal am wneud y fath osodiad).

    Er gwaetha'r tag milwriaethus nid ydwyf,eto, wedi lladd unrhyw un yn enw cenedlaetholdeb Cymreig.

    Rwy'n methu gyrru car, felly prin fy mod âm yrru awyren i mewn i adeiladau'r Senedd, a hyd y gwelaf nid ydwyf wedi awgrymu dy fod ti am wneud peth tebyg chwaith!
    "

    Felly rwyt yn cytuno â mi heb sylweddoli hynny.

    Mae "milwriaethus" yn ansoddair sarhaus: mor sarhaus rhaid oedd i'r BBC ymddiheuro am ei ddefnyddio i'th ddisgrifio. Fel rwyt yn ei ddweud dy hun, nid wyt erioed wedi cyflawni trais i hyrwyddo dy achos. Nid wyt felly'n "filwriaethus".

    Pam felly ei ddefnyddio i ddisgrifio fi?

    Os yw mynegi fy marn - barn sy'n clodfori rhyddid mynegiant a rhyddid crefyddol - yn fy ngwneud yn "filwriaethus" yna mae pawb sy'n mynegi barn am unrhyw beth o dan haul yn "filwriaethus".

    Ond gan nad wyt yn dy ystyried dy hun yn "filwriaethus", nid wyf innau chwaith. Hwre!

    ReplyDelete
  7. Roeddwn am ddechrau ymateb i ran olaf dy sylw ond mewn gwirionedd rwyf wedi egluro'r peth gorau ag y gallaf eisoes. Nid wyf yn gwybod sut i'w ddweud eto mewn ffordd gliriach, yn anffodus. Gwell gadael y peth yn y fan yna felly.

    Ond... "islamospastic"?!

    ReplyDelete
  8. Rwyf yn hynafgwr Dylan, doedd dy Dad dim ond yn blentyn deg oed pan gefais fy nhario a'r gair "eithafwr" am y to cyntaf. Am wn i rwyf wedi cael fy ngalw gymaint o "eiriau drwg" megis homoffôb, Islamffôb, hilgi ,rhywgi ac ati fod y fath dermau wedi dyfod yn ddibwys imi bellach, dim ots gennyf, rwy’n hapus hyderus fy marn grefyddol / gwleidyddol yn fy mhenwynni, a dyw taflu enwau i geisio sarnu fy marn yn cael dim effaith o gwbl rŵan!

    ReplyDelete