20/10/2011

Dawkins yn egluro'i bolisi o beidio dadlau ar lwyfan yn erbyn twpsod

Fe soniais yn ôl ym mis Mai am y cyfyng-gyngor sy'n wynebu anffyddwyr amlwg o bryd i'w gilydd, pan mae ffyliaid crefyddol, megis arddelwyr creadaeth, yn eu herio i ddadlau ar lafar yn gyhoeddus. Trwy wrthod, mae'n galluogi'r llall i hawlio buddugoliaeth by default ac i alw'r anffyddiwr yn gachgi. Trwy gytuno, fodd bynnag, byddai'r anffyddiwr yn rhoi'r un fuddugoliaeth ar blât i'r heriwr oherwydd gwobr fawr y person yna mewn gwirionedd yw'r llun ohonynt yn rhannu llwyfan gyda'r anffyddiwr academaidd enwog. Mae cynnwys y ddadl ei hun yn amherthnasol; dwyn peth o hygrededd yr anffyddiwr trwy rannu llwyfan gyfartal ag ef neu hi yw holl bwrpas yr her. "That would look great on your CV, not so good on mine", ys dywed un o gyn-lywyddion y Royal Society (dyfyniad gan Dawkins).

Dyn o'r enw William Lane Craig oedd yr ysgogiad ar gyfer y blogiad blaenorol hwnnw, gan ei fod wedi bod yn brysur yn adeiladu gyrfa trwy wneud datganiadau cyhoeddus yn herio Richard Dawkins, anffyddiwr proffesiynnol enwoca'r byd, i ddadlau ag ef ar lwyfan. Mae Dr Craig yn mynd o le i le yn galw'i hun yn athronydd, ond theolegydd ceiniog a dimau ydyw mewn gwirionedd, eithr un digon huawdl (yn arwynebol, o leiaf) ac un sy'n meddu ar sgiliau rhethregol digon dawnus. Mae'n gwneud ei orau i ymddangos yn barchus a soffistigedig, ond mae pob un o'i ddadleuon unai'n chwerthinllyd o syrffedus a blinedig, neu'n frawychus. Mewn gair, mae'n boncyrs.

Mae Richard Dawkins wedi cyhoeddi erthygl yn esbonio pam ei fod yn anwybyddu'r heriau cyson yma. Mae'n bleser nodi ei fod yn gwneud pwyntiau digon tebyg i'r hyn yr oeddwn i yn ei ddweud.

Wrth reswm, mae Dawkins yn derbyn cannoedd ar gannoedd o wahoddiadau i siarad felly mae'n hurt disgwyl iddo gytuno i bob un. Ond yn achos Craig, y pwynt symlaf a mwyaf arwyddocaol yw bod y dyn yn nytar eithafol sy'n cyfiawnhau hil-laddiad. Fel mae Dawkins yn ei egluro mor glir, mae hynny'n hen ddigon o reswm i gadw draw oddi wrtho. Mae'r dyn yn wallgof.

No comments:

Post a Comment