24/04/2011

Helo

Fel mae teitl hynod glyfar a dychmygus y blog newydd yma'n awgrymu, dw i wedi penderfynu ysgrifennu am y ffaith nad oes yna dduwiau.

Dw i'n siwr mai ymateb cyntaf llawer fydd gofyn sut yn union mae trafod safbwynt mor "negyddol". Ar ôl gwrthod bodolaeth unrhyw dduwiau, be'n fwy sydd i'w ddweud ar y pwnc heblaw ail-adrodd "na" hyd syrffed?

Wel, tra mai diffiniad syml "anffyddiaeth" ydi diffyg ffydd mewn unrhyw fath o fodau goruwchnaturiol, mae 'na fwy ynghlwm â'r peth. Mae anffyddwyr yn gwneud eu gorau i arddel rhesymeg a sgeptigiaeth, a seilio barn ar dystiolaeth. Mae hynny'n beth positif, nid negyddol. Dw i'n eitha' hyderus bod yna ddigon i'w ddweud o hyd.

Dyna, felly, fydd thema ganolog fy sgriblo, ar y cyd efo ychydig o fynegi diffyg amynedd ag ofergoeliaeth yn gyffredinol). Mae gen i ddiddordeb anferth yn y ddadl dragwyddol yma (wedi'r cyfan, bodolaeth duw fyddai cwestiwn pwysica'r bydysawd, petai'n wir). Dw i wedi sylwi nad oes cymaint â hynny o drafod am y peth yn y Gymraeg, felly gobeithio dyma lenwi bwlch. A pha ddiwrnod gwell i ddechrau na heddiw, dydd Sul y Pasg, neu'n hytrach, y diwrnod hwnnw lle rydym yn dathlu stori zombie enwoca'r byd?

No comments:

Post a Comment